{ko: fel i meddwodd y bobol ag i kafodd yntav y wraig}
1 Lleidr cyfrwys mewn dwys draserch
2 ymanno[ ] vvm mynais verch
3 llwyr vry i'm peris llerw vro
4 lleidr y dyn yn lledrad yno
5 gwanvardd o draserch gwenvvn
6 gwae leidr drud am hud hvn
7 ar y modd gwell nog aur mal
8 y cefais och rhac goval
9 gwedy cael neud gwawd ai kwyn
10 gwin a medd gwen em addwyn
11 meddwon vvant val meiddwyr
12 mav boen gwych meibion a gwyr
13 cysgu gwedy symlu son
14 a wnaethant bobl anoethion
15 twrf eirthgrwyd mal torf wrthgroch
16 talm mawr megis tuylu moch
17 mawr vv amorth y porthmon
18 meddwon oeddynt or hynt hon
19 nid oedd veddw dyn daneddwyn
20 nid wyf lesg nid yfai lynn
21 os meddw oeddwn gwn gad
22 meddai'r gwyr meddw o gariad
23 [316] er gostwng or ddiflwng ddau
24 y gannwyll flamgwyr gynnau
25 hir ochwedl vardd cenedlloyw
26 ni hvnai hoen ertrai hoyw
27 ynyn ni hvnwn inau
28 er maint oedd y meddwaint mau
29 se i meddylieis i cheisiaw
30 or gwal drwg ir gwial draw
31 cyd bai anhawdd garwgawdd gwr
32 i chael o ywrth i chulwr
33 Mai degwch mi ai dygvm
34 myn delw Vair vyw dilwfr fvm
35 ni wyddiad bryd lleuad bro
36 i dynion i bod yno
37 nid oedd vawr am geinwawr gynt
38 ysgipio ymhen pes gwypynt
39 oda bvn ar i hvnpwynt
40 i gydgyvaddas ag wynt
41 i rhieni rhyw anhardd
42 a geidw bvn rhag oed bardd
43 hir vydd yn eosydd nos
44 hir hvn Vaelgwn i haros
Dauid ap Gwilim